Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mehefin 2017

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid

Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell diwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â phroses cyllideb a gweithdrefnau cyllid y Cynulliad. Mae'r newidiadau a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.

Y cefndir

3.       Rhoddodd Deddf Cymru 2014 y gallu i'r Cynulliad greu trethi newydd yng Nghymru, yn ogystal â phwerau benthyca, gan olygu bod angen gwneud newidiadau i broses cyllideb y Cynulliad. Ar 15 Tachwedd 2016 a 14 Chwefror 2017, bu'r Pwyllgor Busnes yn trafod cynigion ar gyfer proses newydd ar gyfer y gyllideb er mwyn craffu ar y pwerau ariannol yn Neddf Cymru 2014. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried cynigion manwl ar gyfer diwygio Rheolau Sefydlog yn seiliedig ar y cynigion amlinellol a gyflwynwyd. 

4.       Roedd y cynigion yn seiliedig ar argymhellion Pwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad, ac wedi'u haddasu i gyd-fynd â phroses anneddfwriaethol.  Bu Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn cydweithio wrth lunio gweithdrefn a oedd yn ystyried ymateb y llywodraeth i argymhellion y Pwyllgor Cyllid.

5.       Ar ôl i'r Pwyllgor Busnes ystyried y cynigion cychwynnol hynny a chytuno arnynt o ran egwyddor, cafwyd trafodaethau pellach rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad ynglŷn â rhai o'r manylion. Yna, ar 17 Mawrth a 23 Mai 2017, trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion drafft ar gyfer newidiadau i'r Rheolau Sefydlog er mwyn rhoi proses newydd ar gyfer y gyllideb ar waith. Yn y cyfarfod olaf hwnnw, trafodwyd y cynigion ochr yn ochr â llythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn esbonio ei ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Busnes ar y drafft, a phrotocol drafft rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru.

6.       Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar rai newidiadau i'r drafft gwreiddiol, yn seiliedig ar sylwadau'r Pwyllgor Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, ac mae'r newidiadau dilynol a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn atodiad yr adroddiad hwn. 

Y Cwmpas a'r Cyd-destun ar gyfer Newid

 

7.       Mae'r pwerau a roddir gan Ddeddf Cymru 2014 yn golygu bod angen newid proses cyllideb y Cynulliad er mwyn caniatáu ar gyfer y gwaith o graffu ar drethi a phwerau benthyca datganoledig a ddaw i rym ym mis Ebrill 2018, h.y. yn barod ar gyfer cylch 2018-19 o ran craffu ar y gyllideb. Mae'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer proses sy'n adlewyrchu darpariaethau'r Ddeddf.

 

8.    Mae proses arfaethedig y gyllideb yn addasu'r model a awgrymwyd yn adroddiadau arfer gorau'r Pwyllgor Cyllid i gyd-fynd â'r gofyniad yn Neddf Llywodraeth Cymru i gael cynnig ar gyfer y gyllideb, ac i hwnnw gael ei basio cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi.  Mae hefyd yn ystyried argymhellion a wnaed gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gomisiynwyd yn annibynnol i asesu'r cynigion a oedd yn cael eu datblygu o gymharu â'i egwyddorion arfer gorau ar gyfer tryloywder a diwygio cyllidebau a'r arfer gorau rhyngwladol.  Ar 21 Medi 2016, cymeradwyodd y Pwyllgor Cyllid opsiwn a ffafriwyd ar gyfer proses y gyllideb, fel man cychwyn ar gyfer ei drafodaethau â Llywodraeth Cymru, ac mae'r cynigion yn adlewyrchu canlyniadau'r trafodaethau o'r pwynt hwnnw ymlaen.

 

9.    Gan fod y Fframwaith Cyllidol a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2016 yn nodi'r bwriad i ddatganoli cyfraddau treth incwm Cymreig i'r Cynulliad o 2019/20 ymlaen, ymddengys yn synhwyrol i'r Pwyllgor Busnes achub ar y cyfle hwn i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog yn barod ar gyfer y newid hwnnw, ac felly cynigir newidiadau ar hyn o bryd i ganiatáu ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymreig er na fyddant yn cael eu defnyddio am ddwy flynedd. 

 

10. Bydd protocol diwygiedig rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael ei lunio i gyd-fynd â phroses y gyllideb a nodir yn y Rheolau Sefydlog, ar y gwaith o graffu ar y gyllideb gan Bwyllgorau'r Cynulliad.  Am y tro cyntaf, cynigir y dylid cyfeirio at y protocol yn y Rheolau Sefydlog. Mae proses y gyllideb yn ceisio bodloni'r egwyddorion a nodwyd gan y Pwyllgor Cyllid blaenorol yn ei adroddiadau arfer gorau ar broses y gyllideb, a chydymffurfio â'r gofyniad statudol cyfredol ar gyfer Cynnig Cyllideb Blynyddol a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

11.  Yn yr hirdymor, ar ôl i Ddeddf Cymru 2017 gael Cydsyniad Brenhinol, bydd gan y Cynulliad gymhwysedd hefyd dros drefniadau cyllid, archwilio ac atebolrwydd ehangach yn y dyfodol, a bydd yn gallu ystyried newid i broses gyllidebol ddeddfwriaethol.   Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno yn y gorffennol i ystyried cyflwyno deddfwriaeth ariannol gynhwysfawr, gan alluogi'r Cynulliad i newid i gylch bil cyllideb blynyddol yn y dyfodol. Rhoddodd y Pwyllgor Cyllid wybod i'r Pwyllgor Busnes ar 23 Mai 2017 y bydd yn cynnal darn o waith i edrych ar y posibilrwydd o newid i broses gyllidebol ddeddfwriaethol a beth y byddai hynny'n ei olygu.

 

Newidiadau arfaethedig i broses y gyllideb

12.     Cynigir diwygio Rheol Sefydlog 16.1 er mwyn cynnwys craffu ar bob math o drefniadau cyllido fel rhan o swyddogaethau craffu Pwyllgorau, gan adlewyrchu pwerau newydd Llywodraeth Cymru i gyllido rhywfaint o'i gwariant ei hun.

 

13.     Cynigir diwygio Rheol Sefydlog 19 hefyd, sy'n nodi swyddogaethau'r Pwyllgor Cyllid, er mwyn adlewyrchu rôl y Pwyllgor wrth graffu ar bwerau newydd y Cynulliad o ran trefniadau cyllido. Mae'r Rheol Sefydlog 19.5 newydd yn diffinio 'trefniadau cyllido' i gynnwys holl ffynonellau cyllid posibl y gyllideb ddrafft a fyddai'n destun gwaith craffu. 

 

14.     Gyda'r pwerau newydd o ran trethiant a benthyca, y bwriad yw y dylai'r Pwyllgor Cyllid ganolbwyntio yn y dyfodol ar gynlluniau gwariant lefel uwch ac effaith facroeconomaidd y penderfyniadau a wneir ynghylch trethiant. O ganlyniad, bydd y gwaith o graffu ar y cynlluniau gwariant manwl yn cael ei gyfeirio i bwyllgorau eraill y Cynulliad.

 

15.     Mae'r newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 20 (Gweithdrefnau Cyllid) yn arwain at broses sy'n seiliedig yn gyffredinol ar y broses gyfredol, ond mae'n rhannu cynigion y gyllideb ddrafft yn gamau 'amlinellol' a 'manwl' er mwyn caniatáu rhagor o amser i bwyllgorau gynnal eu gwaith craffu, gan gynnwys gwaith y 'pwyllgor cyfrifol' (y Pwyllgor Cyllid) o graffu ar y gyllideb amlinellol lefel uchel, a gwaith pwyllgorau eraill y Cynulliad o graffu ar y cynlluniau gwariant manwl.  Mae'r Pwyllgor Cyllid yn parhau i chwarae rôl o ran goruchwylio a chydlynu, ond mae'r broses hefyd yn caniatáu i gynlluniau gwariant manwl y Llywodraeth gael eu darparu'n gynnar er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl i bwyllgorau polisi a deddfwriaeth graffu a chyflwyno adroddiad ar y manylion, gan gynnwys digon o amser i ymgynghori â'r cyhoedd.

Y broses graffu ddau gam

 

16.     Yn ogystal â'r newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog sy'n adlewyrchu'r broses newydd, cynigir cynnwys Rheol Sefydlog 20.1A newydd a fydd yn cyfeirio at y protocol a gytunwyd rhwng y pwyllgor cyfrifol (y Pwyllgor Cyllid) a Llywodraeth Cymru ar faterion cyllidebol.Bwriedir i'r protocol ategu darpariaethau newydd y Rheolau Sefydlog. Fel y'i drafftiwyd, mae'r ddarpariaeth yn ei gwneud yn bosibl i'r protocol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad cyfan, ond nid yw hynny'n ofynnol.

 

17.     Mae'r newid arfaethedig i Reolau Sefydlog 20.2 i 20.6 yn adlewyrchu'r newid i broses graffu ddau gam, lle y mae cynigion cyllideb amlinellol a chynigion cyllideb manwl, sef y ddwy elfen sy'n cael eu cyfuno i greu'r gyllideb ddrafft, yn gallu cael eu gosod ar wahân ar ddyddiadau gwahanol (er bod modd iddynt gael eu gosod ar yr un pryd hefyd).

 

18.     Mae'r broses lle y mae'r Gweinidog yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor Busnes am y dyddiadau cyhoeddi, a'r broses lle y mae'r Pwyllgor Busnes yn cyhoeddi amserlen (gyda'r opsiwn i newid yr amserlen honno os bydd angen), yn aros yr un fath, heblaw ei bod bellach yn adlewyrchu'r newid i broses graffu ddau gam drwy ddarparu ar gyfer nodi dau ddyddiad cau ar wahân: un i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar y cynigion amlinellol ac un i'r pwyllgorau eraill gyflwyno adroddiad ar y cynigion manwl. Mae pennawd newydd uwch ben Rheol Sefydlog 20.7 – 'Cynigion y Gyllideb Ddrafft' yn nodi dechrau'r broses ddau gam newydd, ac mae geiriad Rheol Sefydlog 20.7 wedi'i ddiwygio i adlewyrchu'r pwerau newydd o ran codi trethi a'r ffaith y bydd cynigion cyllideb ddrafft y llywodraeth bellach yn gwneud mwy na nodi'r symiau o ran adnoddau ac arian parod. Mae'r Rheol Sefydlog hon yn berthnasol i’r cynigion amlinellol yn unig.

 

Amserlenni

19.Mae'r newid arfaethedig i Reol Sefydlog 20.5 yn cynyddu nifer yr wythnosau a roddir ar gyfer gwaith craffu.  Cynigir cyfanswm o wyth wythnos ar gyfer y gwaith o graffu ar y gyllideb amlinellol mewn blwyddyn gyllidebol arferol, gan ganiatáu o leiaf pum wythnos.  Byddai pwyllgorau eraill yn cael o leiaf bum wythnos i gyflwyno adroddiad ar y cynigion manwl. Caiff paragraff ei gynnwys ym mhrotocol cysylltiedig y gyllideb, a gytunwyd rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod yr holl wybodaeth sy'n berthnasol i'r gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn hanner tymor mis Hydref ym mhob achos. Bydd y protocol hefyd yn nodi rhai o'r amgylchiadau lle y gallai'r llywodraeth ddisgwyl gofyn am lai nag wyth wythnos o waith craffu ar y gyllideb amlinellol, ond bydd y penderfyniad ynghylch yr amserlen bob amser yn nwylo'r Pwyllgor Busnes.

 

Y wybodaeth sydd ei hangen ar bob cam

 

20.Mae'r Rheol Sefydlog 20.7A newydd arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth gyhoeddi gwybodaeth benodol yr un pryd â chynigion cyllideb amlinellol, i gynorthwyo pwyllgorau'r Cynulliad.  Bydd manylion am y wybodaeth hon yn cael eu nodi yn y protocol a gytunir rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru.

21.Yna, mae'r Rheol Sefydlog 20.7B newydd yn nodi'r gofyniad i Lywodraeth Cymru osod cynigion cyllideb manwl, yn cynnwys y dyraniadau arfaethedig ar gyfer pob portffolio gweinidogol.

22.Yna, cynigir diwygio geiriad Rheol Sefydlog 20.8 yn unol â'r broses graffu ddau gam newydd. Byddai'r datganiad ar y gyllideb ddrafft yn cael ei wneud ar ôl i'r cynigion amlinellol gael eu cyhoeddi.

Dadl ynghylch y Gyllideb Ddrafft

23.Cynigir diwygiad i'r Rheol Sefydlog 20.9 gyfredol hefyd yn unol â'r broses graffu ddau gam newydd – mae'r rheol hon yn nodi'r cyfyngiadau o ran pryd y gellir gwneud cynnig yn y cyfarfod llawn mewn perthynas â chyllideb ddrafft y Llywodraeth.  Gan fod dau ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau bellach – ar gyfer y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad – byddai'r ddadl ynghylch y gyllideb ddrafft yn digwydd ar ôl i'r ddau ddyddiad cau fynd heibio, ac ni chaiff Pwyllgor Cyllid, y llywodraeth na neb arall wneud cynnig ynghylch y gyllideb ddrafft tan fod hynny wedi digwydd.

24.Cynigir dileu Rheol Sefydlog 20.10 hefyd, sy'n cydnabod hawl unrhyw un o bwyllgorau'r Cynulliad heblaw'r pwyllgor cyfrifol i ystyried y gyllideb ddrafft a chyflwyno adroddiad arni. Nid oes angen y rheol hon mwyach, gan fod gwaith pwyllgorau eraill wrth graffu ar gynigion manwl yn rhan greiddiol o broses newydd y gyllideb.

Argymell newid y gyllideb ddrafft

 

25.Yn unol â Rheol Sefydlog 20.11 ar hyn o bryd, caiff y pwyllgor cyfrifol argymell newid y symiau a gynigir yn y gyllideb ddrafft, oni ni ddylai'r newidiadau hynny gynyddu na gostwng y cyfansymiau perthnasol. Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon i'w gwneud yn glir y dylai unrhyw newidiadau fod yn niwtral o ran cost, hynny yw, na ddylent arwain at gynyddu na gostwng y symiau dan sylw, neu os byddant yn gwneud hynny, bod newid cymesur i'r trefniadau cyffredinol o gyllido’rgyllideb ddrafft.  Cynigir y newid hwn er mwyn cydnabod y pwerau cyllido newydd, gan gynnwys pwerau i newid lefelau trethi. Caiff hyn ei adlewyrchu hefyd mewn newid canlyniadol arfaethedig i Reol Sefydlog 20.12 mewn perthynas ag unrhyw welliant i'r cynnig ynghylch y gyllideb ddrafft.

Cyllideb ddrafft y Comisiwn

 

26.Cynigir newid bach i Reol Sefydlog 20.14 mewn perthynas ag amseriad y gwaith craffu a'r adroddiadau a gyflwynir ar gyllideb y Comisiwn fel rhan o broses y gyllideb. Ysgrifennodd y cyn-Lywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i awgrymu y dylid cyflwyno adroddiad ar gyllideb y Comisiwn erbyn 22 Hydref, sef tair wythnos ar ôl y dyddiad cau ar 1 Hydref pryd y mae'n rhaid i'r Comisiwn osod ei gyllideb (fel y nodir yn Rheol Sefydlog 20.13).  Mae'r diwygiad i Reol Sefydlog 20.14 yn nodi 22 Hydref fel dyddiad cau ar gyfer adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac mae'r Rheol Sefydlog flaenorol yn diogelu cyfnod o dair wythnos o leiaf ar gyfer gwaith craffu. Yn ymarferol, efallai y bydd y Comisiwn yn dewis gosod ei gyllideb ddrafft yn gynharach ac, yn yr achos hwnnw, mae'r newid arfaethedig i'r Rheol Sefydlog yn golygu y byddai gan y Pwyllgor Cyllid fwy na thair wythnos ar gyfer gwaith craffu, yn hytrach na gorfod cyflwyno adroddiad o fewn tair wythnos i'r dyddiad hwnnw. Mae Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y gyllideb a llywodraethu yn cefnogi'r newid arfaethedig hwn, sy'n adlewyrchu'r gweithdrefnau presennol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

27.Cynigir diwygio Rheol Sefydlog 20.28, sy'n nodi'r wybodaeth y dylid ei darparu i ategu'r Cynnig Cyllideb Blynyddol, drwy ychwanegu pwynt (vi) newydd i'w gwneud yn ofynnol bod diweddariadau'n cael eu cyhoeddi i'r wybodaeth a ddarperir yng nghyfnod y gyllideb ddrafft (o ran y cynigion amlinellol a'r cynigion manwl) i gyd-fynd â'r cynnig cyllideb blynyddol. Y nod yw cefnogi tryloywder yn y broses o graffu ar gyllideb ddrafft y llywodraeth. Bydd lefel y wybodaeth wedi'i diweddaru y dylid ei darparu yn cael ei nodi yn y protocol a gytunir rhwng y pwyllgor cyfrifol a Llywodraeth Cymru yn unol â'r Rheol Sefydlog 20.1A newydd arfaethedig.

28.Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon hefyd i'w gwneud yn gliriach bod y cyfeiriadau at y 'Trysorlys' yn y Rheol Sefydlog yn ymwneud â Thrysorlys y DU ac nid Trysorlys Cymru.

 

Defnyddio Gormod o Adnoddau

 

29.Cynigir gwneud rhai newidiadau i'r Rheolau Sefydlog cyfredol sy’n ymwneud â defnyddio gormod o adnoddau. Ar wahân i ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o newidiadau i broses y gyllideb, roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi trafod gyda Llywodraeth Cymru yr angen i gynnwys gweithdrefn briodol yn y Rheolau Sefydlog er mwyn sicrhau y gall unrhyw achos lle y gall Bwrdd Iechyd Lleol neu Lywodraeth Cymru ei hun fynd y tu hwnt i derfynau bloc Cymru gael ei awdurdodi'n ôl-weithredol. 

30.Mae darpariaeth yn Rheolau Sefydlog 20.38 i 20.41 i achosion o ddefnyddio gormod o adnoddau gael eu hawdurdodi’n ôl-weithredol drwy gynnig cyllideb atodol, ond mae geiriad cyfredol y weithdrefn yn berthnasol i'r Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Ombwdsmon. Os bydd unrhyw gyrff yn gorwario, caiff Llywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn unol â Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.37, ond nid oes gofyniad penodol i Lywodraeth Cymru wneud hynny os yw hithau'n defnyddio gormod o adnoddau. Y cynnig yw ychwanegu Rheol Sefydlog 20.37A newydd a diwygiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 20.40 ac 20.41 i gynnwys y Rheol Sefydlog newydd yn y weithdrefn. Mae'r weithdrefn yn 20.37A ar gyfer cyflwyno cynnig cyllideb atodol gan un o Weinidogion Cymru er mwyn gwneud cais am awdurdodiad ôl-weithredol yn wahanol i'r hyn a nodir ar gyfer Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Ombwdsmon, gan fod y cyrff hynny'n cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol. Cynigir diwygiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 20.40 ac 20.41 hefyd, er mwyn cynnwys cyfeiriad at y Rheol Sefydlog 20.37A newydd.

Cyfraddau Treth Incwm Cymreig – Penderfyniadau ynghylch y gyfradd Gymreig

31.Cynigir cyflwyno adran newydd yn Rheol Sefydlog 20, cyn gweithdrefn y Cynnig Cyllideb Blynyddol, i ganiatáu ar gyfer penderfyniadau ynghylch y gyfradd Gymreig.  Mae'r darpariaethau ar gyfer penderfyniadau ynghylch cyfraddau treth incwm Cymreig wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2014, ond gan eu bod yn gysyniad newydd yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad, mae'r Rheolau Sefydlog 20.24A a 20.24B arfaethedig yn diffinio ac yn esbonio'r gofynion ar gyfer penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig (arfer a fabwysiadwyd hefyd gan Senedd yr Alban).

32.Mae'r Rheol Sefydlog 20.24C arfaethedig yn rhoi gofynion Adran 116D(7) o'r Ddeddf ar waith, sef mai dim ond Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig. Mae'n darparu hefyd nad oes modd cyflwyno gwelliannau i gynigion o'r fath, gan ddiogelu hawl gyfan gwbl y Llywodraeth i gynnig mesurau ariannol, sy'n berthnasol hefyd i gynigion y gyllideb a phenderfyniadau ariannol ynghylch Biliau'r Cynulliad.

33.Mae'r Rheol Sefydlog 20.24D newydd arfaethedig yn atal penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig rhag cael ei gynnig tan ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei gyflwyno. Y nod yw diogelu dilysrwydd cyffredinol y broses o graffu ar y gyllideb, a sicrhau bod yr holl wybodaeth am gyllideb derfynol y Llywodraeth ar wrth law pan fydd Aelodau’n pleidleisio ar benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig.

34.Mae'r Rheol Sefydlog 20.29A newydd arfaethedig yn sicrhau bod y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig a chytuno ar Gynnig Cyllideb Blynyddol yn gyd-ddibynnol. Drwy sôn am 'gytuno', yn hytrach na 'chyflwyno' neu 'gynnig', byddai'r Rheol Sefydlog hon yn caniatáu i benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig a Chynnig Cyllideb Blynyddol gael eu cynnig yn yr un cyfarfod pe bai’r llywodraeth am wneud hynny, ond ni fyddai modd pleidleisio ynghylch y Cynnig Cyllideb Blynyddol tan fod y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig wedi’i gytuno.

 

Newidiadau i Reol Sefydlog 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy’n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig)

 

35.Cynigir newidiadau i Reol Sefydlog 27 er mwyn darparu ar gyfer cymeradwyo offerynnau statudol sy'n ymwneud â threthi datganoledig. Mae Rheol Sefydlog 27 yn darparu gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Cynigir diwygio'r weithdrefn hon, gan ychwanegu Rheol Sefydlog 27.8A newydd a fydd yn caniatáu i unrhyw offeryn neu offeryn drafft sy'n ymwneud â threthi datganoledig gael ei ystyried gan y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 (sef y Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd), yn ogystal â'r pwyllgor sy'n gyfrifol am swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21 (sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn o bryd.) Mae'r Rheol Sefydlog 27.8A newydd hon yn golygu y caiff y Pwyllgor Cyllid ystyried unrhyw offeryn statudol sy’n ymwneud â threthi datganoledig yn awtomatig, ond nid yw'n rhwym i wneud hynny. Mae dal yn agored i unrhyw bwyllgor arall ystyried yr offeryn, yn unol â'r broses a sefydlir gan Reol Sefydlog 27.8.  Cynigir newid canlyniadol i Reol Sefydlog 27.7 hefyd i gyfeirio at rôl y Pwyllgor Cyllid ar gyfer offerynnau sy'n ymwneud â threthi.

36.Gan nad oes gofyniad ar y pwyllgor cyfrifol i ystyried offerynnau statudol o'r fath, bydd swyddogion o'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 27.8A yn rhoi gwybod i swyddogion y llywodraeth cyn gynted â phosibl a fydd y pwyllgor yn ystyried pob eitem o is-ddeddfwriaeth ai peidio. Yn yr un modd, bydd swyddogion y llywodraeth yn rhoi gwybod i staff y pwyllgor cyn gynted â phosibl pryd y mae disgwyl i offerynnau statudol perthnasol gael eu gosod.

Mân newidiadau a diwygiadau canlyniadol eraill

37.Cynigir diwygio'r is-bennawd uwchben Rheol Sefydlog 20.2 a geiriad Rheol Sefydlog 20.20, yn unol ag Adran 4 o Ddeddf Cymru 2014, er mwyn newid y cyfeiriadau sy'n weddill at 'Lywodraeth Cynulliad Cymru' i gyfeirio at 'Lywodraeth Cymru'.

38.Yn olaf, cynigir cywiriad i'r Rheol Sefydlog 20.36(ii) bresennol – er mwyn newid y cyfeiriad at y 'Pwyllgor Cyllid' i gyfeirio at y 'pwyllgor cyfrifol' mewn perthynas â'r rôl o gyflwyno adroddiad ar Gynigion Cyllideb Atodol.

Cam gweithredu

39.Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 13 Mehefin 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B. 


Atodiad A

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I REOLAU SEFYDLOG – GWEITHDREFNAU ARIANNOL YN DEILLIO O DDEDDF CYMRU 2014

RHEOL SEFYDLOG 16 – Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

 

Cyffredinol

 

16.1

Rhaid i’r Cynulliad sefydlu pwyllgorau a chanddynt bŵer yn eu cylchoedd gorchwyl i:

(i)       archwilio gwariant, trefniadau cyllido, gweinyddiaeth a pholisi’r llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi;

(ii)      archwilio deddfwriaeth;

(iii)     ymgymryd â swyddogaethau eraill a bennir yn y Rheolau Sefydlog; a

(iv)     ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygiad er mwyn cynnwys craffu ar bob math o drefniadau cyllido fel rhan o swyddogaethau craffu Pwyllgorau, gan adlewyrchu pwerau newydd Llywodraeth Cymru i gyllido rhywfaint o'i gwariant ei hun.

16.2

Cyn gynted â phosibl ar ôl pob etholiad Cynulliad, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig neu gynigion yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 i gynnig teitlau a chylch gorchwyl y pwyllgorau.

Cadw'r Rheol Sefydlog

16.3  

Os yw’n ymddangos i’r Pwyllgor Busnes yn ystod Cynulliad fod angen newid nifer, teitl neu gylch gorchwyl un neu fwy o bwyllgorau (gan gynnwys drwy ddarparu y dylai unrhyw bwyllgor presennol ddod i ben), caiff y Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y newid yn digwydd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

16.4

Wrth gyflwyno unrhyw gynnig o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau’r canlynol:

(i)       bod pob un o feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau;

(ii)      bod pob mater sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau; a

(iii)     pan fo’n rhesymol ymarferol, fod cydbwysedd eang rhwng cyflawni’r cyfrifoldebau a ragnodwyd yn Rheolau Sefydlog 16.1(i) ac 16.1(ii).

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Pwyllgorau Eraill

 

16.5

Caiff y Cynulliad sefydlu unrhyw bwyllgor arall drwy gynnig a gyflwynir gan unrhyw Aelod. Rhaid i gynnig i sefydlu pwyllgor o’r fath gynnig ei deitl a’i gylch gorchwyl.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Parhad Pwyllgorau

 

16.6

Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 16.3, bydd pob pwyllgor a sefydlir gan Reol Sefydlog 16 yn cael ei sefydlu i barhau drwy gydol y Cynulliad oni nodir yn wahanol yn y cynnig i sefydlu’r pwyllgor.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

 

RHEOL SEFYDLOG 19 – Cyllid

 

 

Y Pwyllgor

 

19.1

Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 19 fel “y pwyllgor cyfrifol”) sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 19.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Swyddogaethau

 

19.2

Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw adroddiad neu ddogfen arall a osodwyd gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru neu gan y Comisiwn ac sy’n cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau cyllido, neu ddefnyddio adnoddau.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygiad er mwyn cydnabod y pwerau o ran codi refeniw a trethi o dan Ddeddf Cymru 2014, a rôl y pwyllgor cyfrifol wrth graffu ar y pwerau hyn.

 

19.3

Caiff y pwyllgor cyfrifol hefyd ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â threfniadau cyllido neu gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar drefniadau cyllido neu’ry gwariant hwnnw.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygiad er mwyn cydnabod y pwerau o ran codi refeniw a trethi o dan Ddeddf Cymru 2014, a rôl y pwyllgor cyfrifol wrth graffu ar y pwerau hyn.

19.4

Mae cyfeiriad at ddefnyddio adnoddau yn gyfeiriad at eu gwario, eu defnyddio neu eu lleihau o ran eu gwerth ac mae’n cynnwys gwariant sy’n daladwy o Gronfa Gyfunol Cymru ac unrhyw wariant arall sy’n cael ei dalu o drethi, taliadau a ffynonellau refeniw eraill.

Cadw'r Rheol Sefydlog

19.5

Mae cyfeiriad at drefniadau cyllido yn gyfeiriad at ffynonellau cyllid, gan gynnwys refeniw a geir o drethi, grant bloc Cymru a thrwy fenthyciadau, ond heb fod yn gyfyngedig i'r ffynonellau hynny.

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir rheol newydd er mwyn diffinio 'trefniadau cyllido' gan gynnwys holl ffynonellau cyllid posibl y gyllideb ddrafft a fyddai'n destun gwaith craffu.

 

RHEOL SEFYDLOG 20 – Gweithdrefnau Cyllid

 

Cyffredinol

 

20.1

Ystyr cyfeiriadau at “y pwyllgor cyfrifol” yn Rheol Sefydlog 20 yw pwyllgor sydd â’r cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 19.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.1A

Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol a'r llywodraeth gytuno ar brotocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb.

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir rheol newydd er mwyn cyfeirio at y protocol a gytunir rhwng y Pwyllgor cyfrifol (y Pwyllgor Cyllid) a Llywodraeth Cymru ar faterion cyllidebol, y bwriedir iddo ategu darpariaethau newydd y Rheolau Sefydlog ar gyfer diwygio'r gweithdrefnau o ran craffu ar y gyllideb yn dilyn datganoli pwerau trethi a benthyca yn Neddf Cymru 2014.

 

Fel y'i drafftiwyd, mae'r ddarpariaeth yn ei gwneud yn bosibl i'r protocol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad cyfan, ond nid yw hynny'n ofynnol.

 

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Diwygio'r is-bennawd

Cynigir diwygio'r is-bennawd yn unol ag Adran 4 o Ddeddf Cymru 2014.

20.2

Ym mhob blwyddyn, rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth hysbysu’r Pwyllgor Busnes am y canlynol:

(i)           erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol ddrafft y llywodraeth, yn unol â Rheol Sefydlog 20.7; ac

(ii)          erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb manwl y llywodraeth; a

(iii)        erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn cyflwyno’r cynnig cyllideb blynyddol yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, a chan ystyried Rheol Sefydlog 20.5.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn adlewyrchu'r newid i broses graffu 'ddau gam', lle gosodir y cynigion amlinellol a'r cynigion manwl ar wahân, gan olygu y gellir eu gosod ar ddyddiadau gwahanol. 

 

20.3

 

Rhaid i'r Gweinidog wneud yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 20.2 o leiaf ddwy wythnos cyn toriad yr haf bob blwyddyn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

20.4

Ar ôl cael hysbysiad o dan Reol Sefydlog 20.2 ac ar ôl ymgynghori â’r pwyllgor cyfrifol, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb, a rhaid iddi gynnwys:

(i)           y dyddiadau a hysbyswyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.2;

(ii)          y dyddiad cau erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar gynigion cyllideb amlinellol ddrafft y llywodraeth; a 

(iii)        y dyddiad cau erbyn pryd y bydd yn rhaid i bwyllgorau gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion cyllideb manwl.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn adlewyrchu'r newid i broses graffu 'ddau gam', lle y cyflwynir adroddiad ar y cynigion amlinellol gan y Pwyllgor Cyllid, ac ar y cynigion manwl ar wahân, gan  bwyllgorau eraill.  Bydd angen i'r Pwyllgor Busnes gytuno ar ddau ddyddiad cau: bydd un dyddiad cau ar gyfer adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a'r llall ar gyfer adroddiadau pwyllgorau eraill, er y gallai, wrth gwrs, bennu'r un dyddiad cau ar gyfer pob un ohonynt.

20.5

 

Wrth bennu'r dyddiadau cau o dan Reol Sefydlog 20.4(ii) neu 20.6,;

i)             rhaid rhoi o leiaf pumpwyth wythnos fel arfer i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar gynigion cyllideb amlinellolddrafft y llywodraeth., a rhaid iddo bob amser gael o leiaf bum wythnos i gyflwyno adroddiad; a

ii)            rhaid rhoi o leiaf bum wythnos i bwyllgorau ystyried cynigion cyllideb manwl y llywodraeth.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynyddu nifer yr wythnosau a roddir ar gyfer gwaith craffu. Cynigir cyfanswm o wyth wythnos ar gyfer y gwaith o graffu ar y gyllideb amlinellol mewn blwyddyn gyllidebol arferol, gan ganiatáu o leiaf pum wythnos.  Byddai pwyllgorau eraill yn cael o leiaf bum wythnos i gyflwyno adroddiad ar y cynigion manwl.

 

Caiff paragraff ei gynnwys ym mhrotocol cysylltiedig y gyllideb i sicrhau bod yr holl wybodaeth sy'n berthnasol i'r gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn hanner tymor mis Hydref.

Bydd y protocol cysylltiedig rhwng y pwyllgor cyfrifol a Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi rhai o'r amgylchiadau lle y gallai'r llywodraeth ddisgwyl gofyn am lai nag wyth wythnos o waith craffu ar y gyllideb amlinellol, ond bydd y penderfyniad ynghylch yr amserlen bob amser yn nwylo'r Pwyllgor Busnes.

20.6

 

Ar gais y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth, caiff y Pwyllgor Busnes wneud newidiadau dilynol i’r amserlen a gyhoeddwyd o dan Reol Sefydlog 20.4, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 20.5. Rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyhoeddi’r amserlen ddiwygiedig.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

 

Cynigion y Gyllideb Ddrafft

Pennawd newydd

Mae'r pennawd arfaethedig yn dangos lle y bydd 'cam cyntaf' newydd proses y gyllideb yn dechrau.

20.7

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gynigion cyllideb amlinellol ddrafft sy’n nodi’r cynlluniau cyllido a’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall sy’n briodol ym marn y Gweinidog.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygio’r geiriad er mwyn cydnabod y pwerau newydd i godi trethi a’r ffaith y bydd cynigion cyllideb ddrafft y llywodraeth bellach yn gwneud mwy na nodi symiau’r adnoddau a’r arian parod. Mae’r Rheol sefydlog hon yn ymwneud â’r cynigion amlinellol yn unig.

20.7A

Ar yr un pryd ag y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.7, rhaid iddo hefyd osod y cyfryw wybodaeth ategol a nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth gyhoeddi gwybodaeth benodol yr un pryd â chynigion cyllideb amlinellol. Bydd manylion am y wybodaeth hon yn cael eu nodi mewn protocol ar wahân a gytunir rhwng y pwyllgor cyfrifol a Llywodraeth Cymru, er mwyn cynorthwyo gwaith craffu'r pwyllgor cyfrifol a'r Cynulliad cyfan.

20.7B

Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod cynigion cyllideb manwl gerbron y Cynulliad, gan gynnwys y dyraniadau arfaethedig ar gyfer pob portffolio gweinidogol.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig yn nodi'r gofyniad i'r llywodraeth osod cynigion y gyllideb manwl.

20.8

Caiff un o Weinidogion Cymru wneud datganiad am y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cynigion gcyllideb amlinellol ddrafft gael eui gosod yn unol â Rheol Sefydlog 20.7.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Mae’r diwygiad arfaethedig i’r geiriad yn cyd-fynd â'r broses graffu ddau gam newydd. Byddai'r datganiad ar y gyllideb ddrafft yn cael ei wneud ar ôl i'r cynigion amlinellol gael eu cyhoeddi.

20.9

Ni chaniateir gwneud cynnig yn y cyfarfod llawn mewn perthynas â chyllideb ddrafft y llywodraeth nes i’rbydd y ddau ddyddiad a ganlyn wedi mynd heibio:

(i)   y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y cynigion  gcyllideb amlinellol ddrafft o dan Reol Sefydlog 20.4(ii) (neu Reol Sefydlog 20.6); afynd heibio,

(ii)  y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n rhaid i bwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion  cyllideb manwl o dan Reol Sefydlog 20.4(iii) (neu Reol Sefydlog 20.6).

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Mae’r diwygiad arfaethedig yn cyd-fynd â'r broses graffu ddau gam newydd a'r ffaith bod dau ddyddiad cau bellach. Byddai'r ddadl ynghylch y gyllideb ddrafft yn digwydd ar ôl i'r ddau ddyddiad cau fynd heibio, ac ni chaiff y Pwyllgor Cyllid, y llywodraeth na neb arall wneud cynnig ynghylch y gyllideb ddrafft tan fod hynny wedi digwydd.

20.10

Caiff unrhyw bwyllgor, ac eithrio’r pwyllgor cyfrifol, ystyried cyllideb ddrafft y llywodraeth a chyflwyno adroddiad arni i’r pwyllgor cyfrifol.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Ni fyddai angen y Rheol Sefydlog hon mwyach, oherwydd y byddai gwaith pwyllgorau eraill wrth graffu ar gynigion manwl yn rhan greiddiol o broses newydd y gyllideb.

20.11

Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynigion gcyllideb ddrafft amlinellol ar yr amod:

(i)  na fyddai effaith net y newidiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng y cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghynigion cyllideb amlinellol ddrafft y llywodraeth.; neu

(ii)  bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw argymhelliad i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu

(iii)               y dylai unrhyw argymhelliad i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygiad i'w gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw newidiadau a argymhellir gan y Pwyllgor Cyllid fod yn niwtral o ran cost, hynny yw, nad ydynt yn arwain at gynyddu na gostwng y symiau dan sylw, neu os ydynt yn gwneud hynny, bod newid cymesur mewn man arall er mwyn gwrthbwyso'r cynnydd neu'r gostyngiad.

20.12

Yn unol â’r amserlen a sefydlwyd ac a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynwyd gan un o Weinidogion Cymru fod y Cynulliad yn nodi cyllideb ddrafft y llywodraeth. Dim ond ar yr amod na fyddai effaith net unrhyw newidiadau yn cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y llywodraetho dan yr amodau a ganlyn y caniateir i unrhyw welliant gael ei gyflwyno i gynnig o’r fath.:

(i)           na fyddai effaith net unrhyw newidiadau yn cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth; neu

(ii)          bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw gynnig i gynyddu cyfanswm y gwariant; neu

(iii)        y dylai unrhyw gynnig i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygiad yn dilyn 20.11 uchod – er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau i'r cynnig naill ai'n niwtral o ran cost neu'n cael eu gwrthbwyso gan newid cymesur mewn rhan arall o'r gyllideb ddrafft.

 

Y Comisiwn

 

20.13

Heb fod yn hwyrach na 1 Hydref ym mhob blwyddyn ariannol, rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Cynulliad gyllideb ddrafft ar gyfer y Comisiwn sy’n nodi’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r Comisiwn yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall y mae’r Comisiwn wedi cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

 

20.14

Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried cyllideb ddrafft y Comisiwn a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad amdani heb fod yn hwyrach na thair wythnos ar ôl iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliaderbyn 22 Hydref. Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell amrywiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y Comisiwn.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Ysgrifennodd y cyn-Lywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn awgrymu y dylid ystyried cyllideb y Comisiwn a chyflwyno adroddiad arni erbyn 22 Hydref, sef tair wythnos ar ôl y dyddiad cau ar 1 Hydref pryd y mae'n rhaid i'r Comisiwn osod ei gyllideb (fel y nodir yn y Rheol Sefydlog flaenorol).  Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnig gwneud y newid hwn cyn gynted â phosibl er mwyn cynorthwyo'r broses o graffu ar y gyllideb. Mae'r diwygiad arfaethedig yn nodi 22 Hydref fel dyddiad cau ar gyfer adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac mae'r Rheol Sefydlog flaenorol yn diogelu cyfnod o dair wythnos o leiaf ar gyfer gwaith craffu. Yn ymarferol, efallai y bydd y Comisiwn yn dewis gosod ei gyllideb ddrafft yn gynharach na 1 Hydref, ac yn yr achos hwnnw, mae'r newid arfaethedig i'r Rheol Sefydlog yn golygu y byddai gan y Pwyllgor Cyllid fwy na thair wythnos ar gyfer gwaith craffu, yn hytrach na'i bod yn ofynnol iddo gyflwyno adroddiad o fewn tair wythnos i'r dyddiad hwnnw.

20.15

Rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Cynulliad gyllideb ar gyfer y Comisiwn. Ni chaniateir gosod y gyllideb tan ar ôl y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar gyllideb ddrafft y Comisiwn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

20.16

Rhaid i un o aelodau’r Comisiwn gyflwyno cynnig y dylid cytuno ar y gyllideb a osodir o dan Reol Sefydlog 20.15 a’i hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig a rhaid i’r cynnig gael ei drafod cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Cynulliad yn eistedd).   

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

20.17

Os na chytunir ar gyllideb derfynol y Comisiwn, rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Cynulliad gyllideb ddiwygiedig ar gyfer y Comisiwn, ynghyd â chynnig y dylid cytuno arni a’i hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig a rhaid i’r cynnig gael ei drafod cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Cynulliad yn eistedd).  

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

20.18

Caniateir cyflwyno rhagor o gynigion o dan Reol Sefydlog 20.17 nes y ceir cytundeb ond ni chaniateir i’r Cynulliad ystyried cynnig o’r fath ar ôl 27 Tachwedd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

20.19

Os na chytunwyd ar gyllideb y Comisiwn erbyn 27 Tachwedd, mae cyllideb y Comisiwn sydd i’w hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii) i gynnwys, ar gyfer pob gwasanaeth neu ddiben yr awdurdodwyd defnyddio adnoddau neu arian parod ar eu cyfer gan y Comisiwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol, 95% o’r swm a awdurdodwyd felly.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

20.20

Pan gynhelir Adolygiad o Wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru neu Lywodraeth y DU, caiff aelod o’r Comisiwn, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, ragnodi dyddiadau gwahanol i’r rhai a geir yn Rheol Sefydlog 20.13 erbyn pryd y mae’n rhaid iddo osod cyllideb ddrafft y Comisiwn, ac, yn dilyn hynny, y dyddiad y cyfeirir ato yn Rheolau Sefydlog 20.18 ac 20.19. Os bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno, rhaid iddo hysbysu’r Cynulliad drwy osod adroddiad.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygio'r geiriad i ddweud 'Llywodraeth Cymru' yn unol ag Adran 4 o Ddeddf Cymru 2014.

 

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

 

20.21

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gerbron y Cynulliad, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.22

Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Yr Ombwdsmon

 

20.23

Rhaid i’r Ombwdsmon gyflwyno’r amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 i’r pwyllgor cyfrifol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.24

Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddo. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Penderfyniadau ynghylch y gyfradd Gymreig

Pennawd newydd

20.24A

Penderfyniad gan y Cynulliad o dan adran 116D o’r Ddeddf yw penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig.

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir y rheol hon er mwyn cynnwys diffiniad o benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig fel y’i diffinnir yn adran 116D o’r Ddeddf. Nid yw’n hanfodol ond gallai fod yn ddefnyddiol – yn yr un modd ag y diffiniwyd ‘trefniadau cyllido’ yn Rheol Sefydlog 19.5 – gan fod ‘penderfyniadau sy’n amrywio trethi’ yn gysyniad cwbl newydd yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. 

20.24B

O ran penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig

(i)   rhaid iddo nodi’r flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi;

(ii)  rhaid iddo gael ei wneud cyn dechrau’r flwyddyn dreth honno; ac

(iii)        ni chaniateir iddo gael ei wneud fwy na 12 mis cyn dechrau’r flwyddyn honno.

 

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir cynnwys y manylion esboniadol hyn o’r Ddeddf yn y Rheolau Sefydlog er mwyn eglurder, gan y bydd angen i’r Swyddfa Gyflwyno wirio’r wybodaeth hon pan gaiff dogfennau perthnasol eu cyflwyno. Nodir bod y manylion hyn wedi’u cynnwys yn Rheolau Senedd yr Alban ar gyfer penderfyniadau ynghylch cyfraddau’r Alban. 

20.24C

Dim ond Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig, neu gynnig i ganslo penderfyniad o'r fath. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r newid arfaethedig hwn yn rhoi gofynion adran 116D(7) o’r Ddeddf ar waith drwy ddarparu mai dim ond Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru a gaiff gynnig penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig. Mae’r cyfyngiad o ran gwelliannau yn diogelu hawl gyfan gwbl y Llywodraeth i gynnig mesurau ariannol, ac mae’n adlewyrchu’r darpariaethau ar gyfer cynigion cyllideb blynyddol, cynigion cyllideb atodol a phenderfyniadau ariannol o ran Biliau’r Cynulliad.

20.24D

Ni chaniateir gwneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig tan ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 20.25.

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir y rheol hon i ddiogelu dilysrwydd y broses o graffu ar y gyllideb ddrafft drwy sicrhau na ellir ei rhagdybio, a hefyd i sicrhau bod yr holl wybodaeth am gyllideb derfynol y llywodraeth wrth law pan fydd Aelodau’n pleidleisio ar benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig.

 

Cynigion Cyllideb Blynyddol

 

20.25

Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6).

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

20.26

Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)       cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)      cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y'i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)     amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y'i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)     amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y'i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.24.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

20.27

Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

20.28

Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)           y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o'r Ddeddf;

(ii)          yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y TDrysorlys y DU ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)        cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan y TDrysorlys y DU a'r adnoddau sydd i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

(iv)         cysoniad rhwng yr amcangyfrif o'r symiau sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau sydd i'w hawdurdodi i'w talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

(v)          cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau sydd i'w hawdurdodi i'w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).; a

(vi)         manylion am unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 i 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

 

Cynigir ychwanegu pwynt (vi) newydd, i'w gwneud yn ofynnol bod diweddariadau'n cael eu cyhoeddi i'r wybodaeth a ddarperir yng nghyfnod y gyllideb ddrafft (o ran y cynigion amlinellol a'r cynigion manwl) i gyd-fynd â'r cynnig cyllideb blynyddol, fel y nodir yn y protocol a gytunwyd rhwng y pwyllgor cyfrifol a Llywodraeth Cymru yn unol â'r Rheol Sefydlog 20.1A newydd arfaethedig.

 

Cynigir hefyd ei gwneud yn gliriach bod y Rheol Sefydlog yn cyfeirio at Drysorlys y DU ac nid Trysorlys Cymru.

20.29

Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.29A

Ni chaniateir gwneud dim penderfyniad ar gynnig cyllideb blynyddol nes bod y Cynulliad wedi cytuno ar y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig ar gyfer y flwyddyn ariannol  sydd o dan sylw yn y cynnig.

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir newid i’r Rheolau Sefydlog er mwyn gwneud y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig a chytuno ar gynnig cyllideb blynyddol yn gyd-ddibynnol.

Drwy sôn am gytuno, yn hytrach na chyflwyno neu gynnig, byddai modd cynnig a thrafod y ddau beth yn yr un cyfarfod pe bai’r llywodraeth am wneud hynny, ond ni fyddai modd pleidleisio ynghylch y cynnig cyllideb blynyddol tan fod y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig wedi’i gytuno.

 

 

Cynigion Cyllideb Atodol

 

20.30

 

Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.31

 

Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.32

 

Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.33

 

Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)       nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw'r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.34

 

Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

 Cadw'r Rheol Sefydlog

20.35

 

Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru:

(i)       rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu memorandwm esboniadol ar y cyd i'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) yn nodi pam mae angen amrywio'r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i'r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i'r amrywiad arfaethedig sy'n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddynt.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.36

 

Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(i)           rhaid i'r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i'r pwyllgor cyfrifol yn nodi pam mae angen amrywio'r gyllideb;

(ii)          caiff y pwyllgor cyfrifol gyflwyno gerbron y Cynulliad adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i'r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i'r amrywiad arfaethedig sy'n briodol ym marn y Ppwyllgor cyfrifolCyllid, ar ôl iddo ymgynghori â'r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog bresennol er mwyn newid y cyfeiriad at y 'Pwyllgor Cyllid' i 'pwyllgor cyfrifol' yn 20.36(ii).

20.37

 

Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb atodol. Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na'u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Defnyddio Gormod o Adnoddau

 

20.37A

Os bydd cyfrifon archwiliedig Llywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad, caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Llywodraeth Cymru.

Rheol Sefydlog newydd

Cynigir y Rheol hon er mwyn darparu’r weithdrefn ofynnol pe bai Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi amod ar gyfrifon adnoddau cyfunol Llywodraeth Cymru. Mae’r weithdrefn yn wahanol i’r hyn a geir yn Rheol Sefydlog 20.39 isod ar gyfer Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru a’r Ombwdsmon, lle y mae’r cyrff hynny’n cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol.

20.38

 

Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.39

 

Os bydd y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

Cadw'r Rheol Sefydlog

20.40

 

Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reolau Sefydlog 20.37A neu 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)       nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw'n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw'n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir y diwygiad canlyniadol hwn yn unol â’r Rheol Sefydlog 20.37A newydd arfaethedig uchod.

20.41

 

Nid yw Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.36 yn gymwys i gynigion a gyflwynir o dan Reolau Sefydlog 20.37A neu 20.39.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir y diwygiad canlyniadol hwn yn unol â’r Rheol Sefydlog 20.37A newydd arfaethedig uchod.

 

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG ERAILL I REOLAU SEFYDLOG SY’N OFYNNOL YN UNOL AG IS-DDEDDFWRIAETH YNGHYLCH TRETH

 

RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy'n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig) 

 

 

Memoranda Esboniadol

 

27.1

Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cynnig ar gyfer Dirymu (Gweithdrefn Penderfyniad Negyddol)

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.2

Yn achos unrhyw offeryn statudol:

(i)           sy’n agored i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad; neu

(ii)          sy’n cael ei osod ar ffurf drafft ond nad yw’n gallu cael ei wneud os caiff y drafft ei anghymeradwyo,

 caiff y Cynulliad, heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod ar ôl i’r offeryn gael ei osod, benderfynu i ddirymu’r offeryn neu, yn ôl fel y digwydd, i anghymeradwyo’r drafft. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.3

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.4

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.5

Yn achos unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad nad yw, oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo drwy gynnig, yn gallu:

(i)       cael ei wneud;

(ii)      dod i rym; neu

(iii)   parhau mewn grym ar ôl y cyfnod a bennwyd yn y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i wneud yr offeryn,

caiff unrhyw aelod o'r llywodraeth gyflwyno cynnig o dan Reol 27.5 i gymeradwyo'r offeryn neu'r offeryn drafft.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.6

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.7

Ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y cyfarfod llawn nes y bydd naill ai:

(i)       y pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2, a 21.3 a 27.8A (lle y bo’n berthnasol) ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi'r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn neu'r drafft; neu

(ii)      20 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r offeryn neu'r offeryn drafft gael ei osod;

pa un bynnag yw'r cyntaf.

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

Cynigir y newid canlyniadol hwn yn sgil y Rheol Sefydlog 27.8A newydd arfaethedig isod.

27.7A

Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, ni fydd Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.8

Os bydd unrhyw bwyllgor, ac eithrio’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3, yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, rhaid iddo roi hysbysiad i’r llywodraeth ei fod yn bwriadu gwneud hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.8A

Caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft sy’n ymwneud â threthi datganoledig, yn ogystal â’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Nid yw Rheol Sefydlog 27.8 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 mewn perthynas ag unrhyw gyfryw offeryn neu offeryn drafft.

 

Rheol Sefydlog newydd

Byddai’r Rheol Sefydlog arfaethedig newydd yn golygu y caiff y Pwyllgor Cyllid (sef y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19) ystyried unrhyw Offerynnau Statudol sy’n ymwneud â threthi datganoledig yn awtomatig. Mae’r Rheol Sefydlog arfaethedig newydd wedi’i geirio fel y byddai yn dal yn agored i unrhyw bwyllgor arall ystyried Offerynnau Statudol o’r fath, gan ddefnyddio’r broses a sefydlir gan Reol Sefydlog 27.8.

 

Gan nad yw’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol ystyried Offerynnau Statudol o’r fath, bydd swyddogion o’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 27.8A yn rhoi gwybod i swyddogion y llywodraeth cyn gynted â phosibl a fydd y pwyllgor yn ystyried pob eitem o is-ddeddfwriaeth ai peidio. Yn yr un modd, bydd swyddogion y llywodraeth yn rhoi gwybod i staff y pwyllgor cyn gynted â phosibl pryd y mae Offerynnau Statudol perthnasol yn debygol o gael eu gosod.

27.9

Os bydd unrhyw bwyllgor yn ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, caiff yr aelod o’r llywodraeth a’i gosododd (neu aelod arall o’r llywodraeth a enwebir gan Brif Weinidog Cymru i fod yn gyfrifol amdano) fod yn bresennol yn y pwyllgor a chymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor sy’n ymwneud â’r offeryn neu’r drafft ond ni chaiff bleidleisio.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Peidio â Diwygio Offerynnau

 

27.10

Ni chaniateir diwygio offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae Rheolau Sefydlog 27.2 neu 27.5 yn gymwys iddo.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Tynnu Offerynnau yn ôl

 

27.11

Caniateir i offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr offeryn hwnnw.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cyfrifo Dyddiau

 

27.12

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 27, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cynigion Eraill mewn Perthynas ag Offerynnau neu Offerynnau Drafft

 

27.13

Nid yw Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.9 yn rhagfarnu hawl unrhyw Aelod i gyflwyno unrhyw gynnig arall mewn perthynas ag offeryn neu offeryn drafft.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cymhwyso’r Rheol Sefydlog at Is-ddeddfwriaeth Arall

 

27.14

Mae Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13 yn gymwys hefyd, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, i unrhyw is-ddeddfwriaeth arall (ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28) ar ffurf adroddiad, canllawiau, cod ymarfer neu ddogfen arall y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt:

(i)   cael eu gosod gerbron y Cynulliad, a

(ii)  bod yn ddarostyngedig i unrhyw fath o weithdrefn Cynulliad sydd â’r un effaith neu effaith gyfatebol i’r rhai a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.2 neu 27.5.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 16 Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

Cyffredinol

16.1        Rhaid i’r Cynulliad sefydlu pwyllgorau a chanddynt bŵer yn eu cylchoedd gorchwyl i:

(i)       archwilio gwariant, trefniadau cyllido, gweinyddiaeth a pholisi’r llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi;

(ii)      archwilio deddfwriaeth;

(iii)     ymgymryd â swyddogaethau eraill a bennir yn y Rheolau Sefydlog; a

(iv)     ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru.

16.2        Cyn gynted â phosibl ar ôl pob etholiad Cynulliad, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig neu gynigion yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 i gynnig teitlau a chylch gorchwyl y pwyllgorau.

16.3        Os yw’n ymddangos i’r Pwyllgor Busnes yn ystod Cynulliad fod angen newid nifer, teitl neu gylch gorchwyl un neu fwy o bwyllgorau (gan gynnwys drwy ddarparu y dylai unrhyw bwyllgor presennol ddod i ben), caiff y Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y newid yn digwydd.

16.4        Wrth gyflwyno unrhyw gynnig o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau’r canlynol:

(i)       bod pob un o feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau;

(ii)      bod pob mater sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau; a

(iii)     pan fo’n rhesymol ymarferol, fod cydbwysedd eang rhwng cyflawni’r cyfrifoldebau a ragnodwyd yn Rheolau Sefydlog 16.1(i) ac 16.1(ii).

 

Pwyllgorau Eraill

16.5        Caiff y Cynulliad sefydlu unrhyw bwyllgor arall drwy gynnig a gyflwynir gan unrhyw Aelod. Rhaid i gynnig i sefydlu pwyllgor o’r fath gynnig ei deitl a’i gylch gorchwyl.

Parhad Pwyllgorau

16.6        Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 16.3, bydd pob pwyllgor a sefydlir gan Reol Sefydlog 16 yn cael ei sefydlu i barhau drwy gydol y Cynulliad oni nodir yn wahanol yn y cynnig i sefydlu’r pwyllgor.

RHEOL SEFYDLOG 19 – Cyllid

Y Pwyllgor

19.1        Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 19 fel “y pwyllgor cyfrifol”) sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 19.

Swyddogaethau

19.2        Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw adroddiad neu ddogfen arall a osodwyd gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru neu gan y Comisiwn ac sy’n cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau cyllido, neu ddefnyddio adnoddau.

 

19.3        Caiff y pwyllgor cyfrifol hefyd ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â threfniadau cyllido neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar drefniadau cyllido neu'r gwariant hwnnw.

19.4        Mae cyfeiriad at ddefnyddio adnoddau yn gyfeiriad at eu gwario, eu defnyddio neu eu lleihau o ran eu gwerth ac mae’n cynnwys gwariant sy’n daladwy o Gronfa Gyfunol Cymru ac unrhyw wariant arall sy’n cael ei dalu o drethi, taliadau a ffynonellau refeniw eraill.

19.5        Mae cyfeiriad at drefniadau cyllido yn gyfeiriad at ffynonellau cyllid gan gynnwys refeniw a geir o drethi, grant bloc Cymru a thrwy fenthyciadau, ond heb fod yn gyfyngedig i'r ffynonellau hynny.

RHEOL SEFYDLOG 20 – Gweithdrefnau Cyllid

Cyffredinol

20.1        Ystyr cyfeiriadau at “y pwyllgor cyfrifol” yn Rheol Sefydlog 20 yw pwyllgor sydd â’r cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 19.

20.1A      Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol a'r llywodraeth gytuno ar brotocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb.

 

Llywodraeth Cymru

20.2     Ym mhob blwyddyn, rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth hysbysu’r Pwyllgor Busnes am y canlynol:

(i)           erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth, yn unol â Rheol Sefydlog 20.7;

(ii)          erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb manwl y llywodraeth; a

(iii)        erbyn pa ddyddiad y bydd un o Weinidogion Cymru yn cyflwyno’r cynnig cyllideb blynyddol yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, a chan ystyried Rheol Sefydlog 20.5.

 

20.3       Rhaid i'r Gweinidog wneud yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 20.2 o leiaf ddwy wythnos cyn toriad yr haf ym mhob blwyddyn.

20.4        Ar ôl cael hysbysiad o dan Reol Sefydlog 20.2 ac ar ôl ymgynghori â’r pwyllgor cyfrifol, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb, a rhaid iddi gynnwys:

(i)           y dyddiadau a hysbyswyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.2;

(ii)          y dyddiad cau erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar gynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth; a

(iii)        y dyddiad cau erbyn pryd y bydd yn rhaid i bwyllgorau gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion  cyllideb manwl.

 

20.5       Wrth bennu'r dyddiadau cau o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6;

(i)           rhaid rhoi o leiaf wyth wythnos fel arfer i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar gynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth, a rhaid iddo bob amser gael o leiaf bum wythnos i gyflwyno adroddiad; a

(ii)          rhaid rhoi o leiaf bum wythnos i bwyllgorau ystyried cynigion cyllideb manwl y llywodraeth.

 

20.6      Ar gais y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth, caiff y Pwyllgor Busnes wneud newidiadau dilynol i’r amserlen a gyhoeddwyd o dan Reol Sefydlog 20.4, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 20.5. Rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyhoeddi’r amserlen ddiwygiedig.

Cynigion y Gyllideb Ddrafft

20.7       Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gynigion cyllideb amlinellol sy’n nodi’r cynlluniau cyllido a'r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall sy’n briodol ym marn y Gweinidog.

20.7A      Ar yr un pryd ag y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.7, rhaid iddo hefyd osod y cyfryw wybodaeth ategol a nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.

20.7B      Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Rheol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod cynigion cyllideb manwl gerbron y Cynulliad, gan gynnwys y dyraniadau arfaethedig ar gyfer pob portffolio gweinidogol. 

20.8      Caiff un o Weinidogion Cymru wneud datganiad am y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cynigion cyllideb amlinellol gael eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 20.7.

20.9       Ni chaniateir gwneud cynnig yn y cyfarfod llawn mewn perthynas â chyllideb ddrafft y llywodraeth nes bydd y ddau ddyddiad a ganlyn wedi mynd heibio:

i)     y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y cynigion cyllideb amlinellol o dan Reol Sefydlog 20.4(ii) (neu Reol Sefydlog 20.6); a

ii)    y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n rhaid i bwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion cyllideb manwl o dan Reol Sefydlog 20.4(iii) (neu Reol Sefydlog 20.6).

 

20.10      [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y cyfarfod llawn ar XX XXXX XXXX]

20.11      Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynigion cyllideb amlinellol ar yr amod:

(i)           na fyddai effaith net y newidiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng y cyfansymiau a gynigiwyd yng nghynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth; neu

(ii)          bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw argymhelliad i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu

(iii)        y dylai unrhyw argymhelliad i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.

 

20.12      Yn unol â’r amserlen a sefydlwyd ac a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynwyd gan un o Weinidogion Cymru fod y Cynulliad yn nodi cyllideb ddrafft y llywodraeth. Dim ond o dan yr amodau a ganlyn y caniateir i unrhyw welliant gael ei gyflwyno i gynnig o’r fath:

(i)           na fyddai effaith net unrhyw newidiadau yn cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth; neu

(ii)          bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw gynnig i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu

(iii)        y dylai unrhyw gynnig i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.

              

Y Comisiwn

20.13      Heb fod yn hwyrach na 1 Hydref ym mhob blwyddyn ariannol, rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Cynulliad gyllideb ddrafft ar gyfer y Comisiwn sy’n nodi’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r Comisiwn yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall y mae’r Comisiwn wedi cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru.

20.14      Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried cyllideb ddrafft y Comisiwn a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad amdani erbyn 22 Hydref.  Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell amrywiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y Comisiwn.

20.15     Rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Cynulliad gyllideb ar gyfer y Comisiwn.  Ni chaniateir gosod y gyllideb tan ar ôl y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar gyllideb ddrafft y Comisiwn.  

20.16      Rhaid i un o aelodau’r Comisiwn gyflwyno cynnig y dylid cytuno ar y gyllideb a osodir o dan Reol Sefydlog 20.15 a’i hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig a rhaid i’r cynnig gael ei drafod cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Cynulliad yn eistedd).   

20.17      Os na chytunir ar gyllideb derfynol y Comisiwn, rhaid i un o aelodau’r Comisiwn osod gerbron y Cynulliad gyllideb ddiwygiedig ar gyfer y Comisiwn, ynghyd â chynnig y dylid cytuno arni a’i hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i’r cynnig a rhaid i’r cynnig gael ei drafod cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei gyflwyno (heb gyfrif dyddiau gwaith mewn wythnos pan na fydd y Cynulliad yn eistedd).  

20.18      Caniateir cyflwyno rhagor o gynigion o dan Reol Sefydlog 20.17 nes y ceir cytundeb ond ni chaniateir i’r Cynulliad ystyried cynnig o’r fath ar ôl 27 Tachwedd.

20.19      Os na chytunwyd ar gyllideb y Comisiwn erbyn 27 Tachwedd, mae cyllideb y Comisiwn sydd i’w hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii) i gynnwys, ar gyfer pob gwasanaeth neu ddiben yr awdurdodwyd defnyddio adnoddau neu arian parod ar eu cyfer gan y Comisiwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol, 95% o’r swm a awdurdodwyd felly.

20.20      Pan gynhelir Adolygiad o Wariant Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, caiff aelod o’r Comisiwn, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, ragnodi dyddiadau gwahanol i’r rhai a geir yn Rheol Sefydlog 20.13 erbyn pryd y mae’n rhaid iddo osod cyllideb ddrafft y Comisiwn, ac, yn dilyn hynny, y dyddiad y cyfeirir ato yn Rheolau Sefydlog 20.18 ac 20.19. Os bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno, rhaid iddo hysbysu’r Cynulliad drwy osod adroddiad.

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

20.21      Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gerbron y Cynulliad, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

20.22      Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

Yr Ombwdsmon

20.23      Rhaid i’r Ombwdsmon gyflwyno’r amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 i’r pwyllgor cyfrifol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

20.24      Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddo. 

Penderfyniadau ynghylch y gyfradd Gymreig

20.24A    Penderfyniad gan y Cynulliad o dan adran 116D o’r Ddeddf yw penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig.

20.24B    O ran penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig

(i)   rhaid iddo nodi’r flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi;

(ii)  rhaid iddo gael ei wneud cyn dechrau’r flwyddyn dreth honno; ac

(iii)        ni chaniateir iddo gael ei wneud fwy na 12 mis cyn dechrau’r flwyddyn honno.       

 

20.24C    Dim ond Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig, neu gynnig i ganslo penderfyniad o'r fath.  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig. 

20.24D    Ni chaniateir gwneud cynnig am benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig tan ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 20.25.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

20.25      Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6).

20.26      Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)       cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)      cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y’i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)     amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)     amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.24.

20.27      Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

20.28      Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)       y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;

(ii)      yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan Drysorlys y DU ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)     cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan Drysorlys y DU a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;

(iv)     cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig;

(v)      cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 i 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.

20.29      Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol.

20.29A    Ni chaniateir gwneud dim penderfyniad ar gynnig cyllideb blynyddol nes bod y Cynulliad wedi cytuno ar y penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig.

Cynigion Cyllideb Atodol

20.30      Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

20.31      Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

20.32     Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

20.33     Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)       nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.34     Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

20.35     Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru:

(i)       rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu memorandwm esboniadol ar y cyd i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddynt.

20.36     Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(i)       rhaid i’r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor cyfrifol gyflwyno gerbron y Cynulliad adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

20.37     Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb atodol. Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na’u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru. 

Defnyddio Gormod o Adnoddau

20.37A    Os bydd cyfrifon archwiliedig Llywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad, caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Llywodraeth Cymru.

20.38    Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad.

20.39      Os bydd y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

20.40      Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reolau Sefydlog 20.37A neu 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)       nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.41     Nid yw Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.36 yn gymwys i gynigion a gyflwynir o dan Reolau Sefydlog 20.37A neu 20.39.

 

RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy’n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig)

Memoranda Esboniadol

27.1        Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

Cynnig ar gyfer Dirymu (Gweithdrefn Penderfyniad Negyddol)

27.2        Yn achos unrhyw offeryn statudol:

(i)       sy’n agored i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad; neu

(ii)      sy’n cael ei osod ar ffurf drafft ond nad yw’n gallu cael ei wneud os caiff y drafft ei anghymeradwyo,

caiff y Cynulliad, heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod ar ôl i’r offeryn gael ei osod, benderfynu i ddirymu’r offeryn neu, yn ôl fel y digwydd, i anghymeradwyo’r drafft. 

27.3        Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

27.4        Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

27.5        Yn achos unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad nad yw, oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo drwy gynnig, yn gallu:

(i)       cael ei wneud;

(ii)      dod i rym; neu

(iii)     parhau mewn grym ar ôl y cyfnod a bennwyd yn y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i wneud yr offeryn,

               caiff unrhyw aelod o'r llywodraeth gyflwyno cynnig o dan Reol 27.5 i gymeradwyo'r offeryn neu'r offeryn drafft.

27.6        Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5.   

27.7        Ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y cyfarfod llawn nes y bydd naill ai:

(i)       y pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2, 21.3 a 27.8A (lle y bo'n berthnasol) ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi'r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn neu'r drafft; neu

(ii)      20 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r offeryn neu'r offeryn drafft gael ei osod;

pa un bynnag yw'r cyntaf.

27.7A      Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, ni fydd Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys.

27.8        Os bydd unrhyw bwyllgor, ac eithrio’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3, yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, rhaid iddo roi hysbysiad i’r llywodraeth ei fod yn bwriadu gwneud hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

27.8A      Caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft sy’n ymwneud â threthi datganoledig, yn ogystal â’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3.  Nid yw Rheol Sefydlog 27.8 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 mewn perthynas ag unrhyw gyfryw offeryn neu offeryn drafft.

27.9        Os bydd unrhyw bwyllgor yn ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, caiff yr aelod o’r llywodraeth a’i gosododd (neu aelod arall o’r llywodraeth a enwebir gan Brif Weinidog Cymru i fod yn gyfrifol amdano) fod yn bresennol yn y pwyllgor a chymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor sy’n ymwneud â’r offeryn neu’r drafft ond ni chaiff bleidleisio.

Peidio â Diwygio Offerynnau

27.10      Ni chaniateir diwygio offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae Rheolau Sefydlog 27.2 neu 27.5 yn gymwys iddo.

Tynnu Offerynnau yn ôl

27.11      Caniateir i offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr offeryn hwnnw.

Cyfrifo Dyddiau

27.12      Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 27, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Cynigion Eraill mewn Perthynas ag Offerynnau neu Offerynnau Drafft

27.13      Nid yw Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.9 yn rhagfarnu hawl unrhyw Aelod i gyflwyno unrhyw gynnig arall mewn perthynas ag offeryn neu offeryn drafft.

Cymhwyso’r Rheol Sefydlog at Is-ddeddfwriaeth Arall

27.14      Mae Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13 yn gymwys hefyd, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, i unrhyw is-ddeddfwriaeth arall (ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28) ar ffurf adroddiad, canllawiau, cod ymarfer neu ddogfen arall y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt:

(i)       cael eu gosod gerbron y Cynulliad, a

(ii)      bod yn ddarostyngedig i unrhyw fath o weithdrefn Cynulliad sydd â’r un effaith neu effaith gyfatebol i’r rhai a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.2 neu 27.5.